75 Years of Dr John Cooper Clarke - WEDI'I GANSLO
Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024, 7.00pm
Drysau yn agor am 7pm
Daeth John Cooper Clarke i’r amlwg fel saeth yn y 1970au, yn ‘fardd y bobol’ gwreiddiol.
Rhoddwyd ei faddoniaeth ddihafal ar gân gan y cynhyrchydd Martin Hannett a band o Fanceiniaid, The Invisible Girls. Roedd traciau arloesol megis Beasley St ac Evidently Chickentown ar yr albwm Snap Crackle and Bop, un o bedwar albwm hit o’r saith degau a’r wyth degau. Daeth JCC yn un o artistiaid mwyaf toreithiog blynyddoedd Pync.
Mae ei flodeugerdd o’r 1980au 10 Years in An Open Necked Shirt sy’n cynnwys geiriau traciau clasurol o’i albymau a rhagor, yn un o’r blodeugerddi werthodd fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain.
Ers hynny mae ei yrfa’n pontio diwylliannau, cynulleidfaoedd, ffurfiau ar gelfyddyd a chyfandiroedd.
Heddiw dim ond yn fardd solo stand-yp mae’n perfformio. Mae ei sioe farddoniaeth heb ei hail yn teithio drwy’r byd yn grwn ers dros bymtheng mlynedd.
Blodeugerdd John o'r flwyddyn 2018 The Luckiest Guy Alive. Yn cynnwys deg ar hugain o gerddi newydd, gan gynnwys y ffefrynnau I've Fallen In Love With My Wife a Get Back on Drugs you Fat F*ck.
Hunangofiant Dr John Cooper Clarke o'r flwyddyn 2019 wedi’i enwi ar ôl ei gerdd enwocaf.
I Wanna Be Yours, (Macmillan), sef ddarn o lên sy’n torri tir newydd. Mae JCC yn rhoi manylion cyfareddol ei febyd ym Manceinion yn arwain at fod yn archseren pync, dibyniaeth ar gyffuriau ac wedyn y dadeni aruthrol yn fardd o bwys yn yr oes sydd ohoni.
Bydd JCC yn teithio’r byd drachefn o fis Mawrth 2022 tan ddiwedd y flwyddyn.
Mae’r oedau’n cynnwys Hammersmith Apollo Llundain, dwy noson yn Bridgewater Hall enwog Manceinion, début yn Ffrainc, ym Mharis ym mis Mai yn La Boule Noire, a sioe arbennig yn Neuadd Dref Efrog Newydd ym mis Hydref.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.