Sarah Millican: Bobby Dazzler
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf 2022, 8.00pm
Dydd Sul 24 Gorffennaf 2022, 8.00pm
Argymhelliad oedran: Anaddas i rai o dan 16 oed
Bwciwch NawrMae Sarah Millican, un ddigri dat ddagrau, yn ei hôl ar daith ac i’w chanlyn sleifar o sioe stand-up newydd.
Ar hon, ei chweched daith ryngwladol, gewch chi wybod be sy’n digwydd pan fo’ch ceg chi wedi’i selio, sut i daflu pŵ dros wal, trïo colli pwysau ond colli dim ond blaen eich bys, prawf rhwbiad syfrdanol o ddigri, a pha mor wirioneddol ofnadwy mae tanc arnofiad yn gallu bod go iawn.
Treuliodd Sarah y flwyddyn aeth heibio’n sgrifennu jôcs ac yn tyfu’i phen-ôl. Mae hi jyst â thorri’i bol o eisiau’i chychwyn hi ar daith eto i wneud i chi chwerthin.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.