Kevin Bloody Wilson
Taith FUPC 2021
Dydd Iau 11 Tachwedd 2021, 7.30pm
Bwciwch NawrGyda Jenny Talia.
Mewn byd sydd bron â boddi dan don o Gywirdeb Gwleidyddol, mae Kevin Bloody Wilson ar flaen y gad yn y frwydr yn ei erbyn.
Ystyrir Kevin Bloody Wilson yn Awstraliad Digrifa’r Byd ac mae cyn syched a chyn arwed â’i dreftadaeth yn y berfeddwlad.
Mae ei berfformiad diweddaraf, FUPC, yn taro’r sbotolau ar Gywirdeb Gwleidyddol i’w ddangos yn ei briod liwiau ac fel mae yntau’n ei weld….sef jôc!
Gwerthodd ugain albwm Kev o faledi coch o’i law ei hun yn eu miliynau ac mae ei leng fyd-eang o selogion wedi dyrchafu Kev i Statws Seren Roc.
Pan welwch chi KEV yn fyw, yn un peth does dim dwywaith na fyddwch yn chwerthin llond bol am ben pethau na ddylech chi fod yn chwerthin am eu pennau, ac yn ail dyma rywbeth arall medrwch chi roi tic iddo ar eich rhestr pethau i’w gwneud cyn marw!
Argymhellir bod Gwroniaid Cyfiawnder Cymdeithasol a Dadleuwyr dros Gywirdeb Gwleidyddol yn aros gartre.
Yn y cyfamser gaiff y gweddill ohonom noson yn clewtian ein cluniau ac yn g’lana chwerthin am ben barn synnwyr cyffredin Kev ar Gywirdeb Gwleidyddol.
Terfyn oed: 16+
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.