John Bishop
Right Here, Right Now
Dydd Gwener 7 Ionawr 2022, 8.00pm
Bwciwch Nawr‘A gloriously gifted storyteller’
★★★★Daily Telegraph
Mae’r arch-seren comedi John Bishop yn dod i Neuadd Dewi Sant yn ei sioe stand-up newydd sbon danlli grai y bu mawr aros amdani – Right Here, Right Now.
Wythfed sioe stand-up John fydd hon ac mae hi’n addo bod yr orau eto. Fe’i gwêl yn perfformio drwy hyd a lled gwledydd Prydain, Iwerddon, America, Canada ac Ewrop.Mae John yn ysu am gael bod yn ei ôl ar daith!!
Daeth llwyddiant aruthrol i ran John yn sgìl nifer o’i sioeau comedi, adloniant a dogfen ei hun yn cynnwys ‘John Bishop’s Australia’ (BBC1), ‘John Bishop’s Britain’ (BBC1); ‘John Bishop’s Only Joking’ (Sky1); ‘The John Bishop Show’ (BBC1); ‘The John Bishop Christmas Show’ (BBC1) a ‘John Bishop’s Gorilla Adventure’ (ITV1). Yn fwy diweddar ‘John Bishop’s Ireland’ i ITV1 a phedair cyfres enfawr y sioe fawr ei chlod gan y beirniaid ‘John Bishop: In Conversation With…’ a’i gwelodd yn sgwrsio, un i un, â rhai o enwau cyfarwydd mwya’r Byd.
‘Frankly hilarious’ ★★★★ Daily Telegraph
‘Bishop has funny bones’ ★★★★ The Times
‘Two hours of observational humour delivered so skilfully it looks effortless’ Evening Standard
‘John Bishop has taken on the mantle of Britain’s top comic’ ★★★★ Daily Mirror
Dim Mynediad Os Ydych Yn Hwyr
Oedran isaf: 16+
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.