Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod digwyddiad Foil, Arms a Hog nos Sad 4 Ebrill 2020, 8pm wedi’i ohirio tan nos Sul 2 Mai 2021 8pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Mae pennaf driawd sgetshis Iwerddon yn ei ôl ar daith ac i’w ganlyn ei sioe newydd Swines. Yn sgìl dros gan miliwn o hits, mae’r grŵp fwyaf adnabyddus am eu sgetshis ar lein, ond yn y sioe fyw maen nhw are eu gorau. Daeth clod y beirniaid i ran y triawd eleni, yn sioe adolygwyd orau yng Ngŵyl Ymylon Caeredin, a bellach maen nhw’n hel eu pac ledled gwledydd Prydain. Maen nhw hyd yn oed yn dod i Gymru. Dewch i weld awr o lol botas maip wedi’i sgriptio, cymeriadau gwyrdroedig, cerddoriaeth a byrfyfyrio ar ddamwain.
'Very funny' (Rowan Atkinson)
'An effervescent hour of fast-paced gags, fizzing with energy, invention and great lines' (Chortle.co.uk)
'Quite simply, a sensation' (Edinburgh Festivals Magazine).
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.