Chris Ramsey

Y SIOE STAND-UP NEWYDD SBON DANLLI GRAI 

Yn 2020 mae Chris Ramsey, y digrifwr mawr ei glod gan y beirniaid, yn hel ei bac i fynd ar ei daith stand-up fwyaf erioed. Wedi llenwi hyd y fyl oedfannau drwy hyd a lled y wlad yn cynnwys Newcastle Metro Arena, ddwywaith, “Ramsey has the potential to be a mainstream hit, a cult favourite or almost anything in between” (Sunday Times), felly peidiwch, da chi, â cholli’ch cyfle i’w ddal yn fyw ar lwyfan tra gallwch chi.   

Mae Chris newydd gyhoeddi ei sioe stand-up arbennig fyw ei hun fydd ar gael yn yr haf i’w ffrydio ar Amazon Prime. Ochr yn ochr â’i wraig Rosie mae hefyd yn gyd-lywydd y podlediad ysgubol o lwyddiannus Shagged. Married. Annoyed. a lawrlwythwyd – yn anhygoel - gynifer â phedair miliwn a hanner o weithiau. 

Yn ddiweddar fe’i gwelwyd yn llywyddu dwy gyfres o’i sioe deledu ei hun The Chris Ramsey Show a Chris Ramsey’s Stand up Central (Comedy Central ill dwy), bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar lawer o bennaf sioeau comedi gan gynnwys Celebrity Juice (ITV2), 8 out of 10 Cats (C4), Live at the Comedy Store (Comedy Central) a Virtually Famous (E4) ac enwi ond dyrnaid.

 
 Pris Safonal £25

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 
18.00  Bars yn agor
19.00  Drysau'na agor 
19.30  Cymorth
20.00  Egwyl
20.30  CHRIS RAMSEY
21.45  DIWEDD                                                                         

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.