Brendan Schaub: 50 Shades of Brown

Digrifwr ar ddeudroed o Americanwr ydi Brendan Schaub, personoliaeth ar y teledu a llywydd y podlediadau sydd ar frig siartiau iTunes, The Fighter and the Kid a King & the Sting.Mae Schaub yn un o hoelion wyth clybiau comedi LA, bellach yn ei ôl ar daith yn dilyn taith y byd yn 2018 a werthodd bob tocyn, a bydd yn dod â’i ddeunydd ar ddeudroed newydd sbon danlli grai i wledydd Prydain ym mis Ebrill.

 
 Pris Safonol £28
  Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith - ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 Seddi'r stalau @ £28 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 

Digrifwr ar ddeudroed o Americanwr ydi Brendan Schaub, llywydd podlediadau, a phersonoliaeth ar y teledu, sydd â’i gartref yn Los Angeles, California. Ar hyn o bryd mae’n cyd-lywyddu dau bodlediad ysgubol o lwyddiannus gyda’i ffrindiau pennaf a’i gyd-ddigrifwyr. Dechreuodd ei yrfa podlediadau â’r sioe lwyddiannus The Fighter and the Kid ochr yn ochr â Bryan Callen o Mad TV. Gyda’i gilydd creodd y ddau chwip o sioe sy’n cael ei llwytho i lawr dros ddeng miliwn o weithiau’r mis. Buon y magodd y podlediad ddilynwyr cwlt yn sgìl bod yn gyson ymhlith pump uchaf iTunes yn y categori chwaraeon/comedi ers pum mlynedd. Yn ddiweddar datblygodd Schaub ei bodlediad diweddaraf i fynd â hi fel slecs, King & the Sting, ar y cyd â’i ffrind y digrifwr ar ddeudroed Theo Von. Saethodd y sioe i boblogrwydd digynsail, sef mynd yn syth i safle podlediad mwyaf poblogaidd y byd ar iTunes yn y fan ar yr episod gyntaf. Below the Belt ydi trydedd sioe Schaub yn ei ymerodraeth podledu y mae’n ei llywyddu ar ei ben ei hun, a phennaf bodlediad ymladd y byd. Mae Below the Belt yn gyson ymhlith pump uchaf iTunes yn y categori chwaraeon/comedi ac aeth yn syth i safle’r podlediad ail fwyaf yn y byd. Ym mhen yr hir a’r hwyr bu podlediad The Fighter and the Kid yn gyfrwng gwireddu breuddwyd bore oes Schaub, sef bod yn ddigrifwr ar ddeudroed. Mae bellach yn un o hoelion wyth clybiau comedi amlycaf Los Angeles, megis Comedy Store, Laugh Factory, ac Improv. Yn 2018 teithiodd Schaub y byd ar ei daith “Stay in Your Lane” yn cynnwys sioeau dan eu sang yn Awstralia, Llundain, Iwerddon, Canada, a thrwy hyd a lled yr Unol Daleithiau o LA i Efrog Newydd. Yn fwyaf nodedig gwerthodd bob tocyn yn theatr Wilbur yn Boston, Massachusetts. Ar ôl dwy flynedd ar ben y rhaglen mewn sioeau dan eu sang ym mhedwar ban byd, ar Ionawr 19eg, 2019 recordiodd Schaub ei raglen gomedi arbennig gyntaf, awr o ran hyd, You’d Be Surprised, gyda Showtime. Ar ben ei yrfa lwyddiannus ym myd comedi mae Schaub hefyd ar Play by Play Bravo, After Party E!, Below the Belt Showtime, seithfed tymor This is Not Happening Comedy Central, ffilm David Ayer Tax Collector sydd ar fin ymddangos, a phodlediad Fight Companion Joe Rogan.