Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan 1 Medi gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan. 

Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm.  Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Alan Carr: Not Again, Alan!

Mae hi bellach yn bedair blynedd ers i Alan fynd ar daith ac yn y cyfnod hwnnw fe’i cafodd ei hun mewn dramâu o bob lliw a llun.  Rhwng diwrnod ei briodas yn frith o sêr, a dod yn anarchydd drwy ddamwain, o ofni am ei fywyd mewn swyddfa rheoli ffin i ddod yn ffarmwr o’i anfodd, mae tri gair yn llamu i’r cof  ….. Ddim eto, Alan! 

Dewch at Alan ar daith ac yntau’n synfyfyrio ar y pethau sy’n gwneud ei fywyd yn rhyfedd ac yn rhyfeddol.

 
 Pris Safonol (Uchafswm o 8 thocyn y pen) £28.00

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt 

CYFYNGIADAU AR AILWERTHU TOCYNNAU:

  1. Trwydded bersonol, ddiddymadwy yw eich tocyn a deil i fod, bob amser, yn eiddo’r hyrwyddwyr.  Rhaid rhoi’r tocyn hwn i’r hyrwyddwyr os gofynnir amdano.
  2. Gwerthir eich tocyn/nau gan yr hyrwyddwyr yn uniongyrchol i chi, y cwsmer.  Diddymir unrhyw docynnau a brynir gan fusnes neu fasnachwyr sy’n torri amodau a thelerau gwerthu tocynnau. Drwy dderbyn yr amodau a’r telerau hyn rydych yn cadarnhau eich bod yn gwsmer.
  3. Bydd eich tocyn/nau yn ANNILYS AR UNWAITH os cânt eu hailwerthu NEU EU CYNNIG I’W GWERTHU oni bai bod y gwerthiant drwy sianelau ailwerthu swyddogol yr Artist fel y’u hysbysebir, neu gyfnewid rhwng selogion asiant tocynnau (lle bo’n berthnasol).  Nid yw tocynnau a werthir drwy drydydd person a safleoedd gwerthu diawdurdod eraill, gan gynnwys mannau ocsiwn ar lein, yn ddilys ar gyfer mynediad.  Mae ailwerthu tocyn yn ei wneud yn annilys a gall arwain at wrthod mynediad.
  4. Cyfyngir gwerthiannau tocynnau i wyth y pen.
  5. Dim ond tocynnau a brynir drwy asiantaethau tocynnau cydnabyddedig sy’n ddilys ar gyfer mynediad.  Ceidw’r oedfan yr hawl i wrthod mynediad.
 
Bwciwch Nawr