Michael Ball: On With the Show - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD
A Gwesteion Arbennig - AMY WADGE
Dydd Iau 14 Mawrth 2024, 7.00pm
Michael Ball ydi pennaf seren theatr gerdd Prydain, yn enillydd dwy Wobr Olivier ac yn enwebai Grammy, ac yn artist recordio lluos-blatinwm ac yn gyflwynydd radio a theledu aruthrol o boblogaidd.Ers dros ddeng mlynedd ar hugain mae ar ei orau, yn serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn y West End ac ar Broadway, yn fawr ei glod gan y beirniaid, a chanddo selogion triw a gwobrau er ei glod am ei waith llwyfan a recordio.
Ymhlith credydau theatr gerdd Michael mae Edna Turnblad yn Hairspray (ENO/Coliseum), Javert yn Les Misérables – Y Cyngerdd Llwyfan (Gielgud Theatre), Anatoly yn Chess (ENO/Coliseum), Mack yn Mack and Mabel (Chichester/Taith yng ngwledydd Prydain), Sweeney Todd yn Sweeney Todd (West End) enillodd iddo’r Wobr Olivier ‘Actor Gorau mewn Drama Gerdd’, Edna Turnblad in Hairspray (Cast Gwreiddiol y West End) enillodd iddo’r Wobr Olivier ‘Actor Gorau mewn Drama Gerdd’, Kismet (English National Opera), Patience (New York City Opera), The Woman in White (West End/Broadway), Chitty Chitty Bang Bang (West End), Passion, The Phantom of the Opera, Aspects of Love (West End/Broadway) a chreu rôl Marius yn Les Misérables (Cast Gwreiddiol y West End).Ymhlith ei gredydau teledu mae ffilm deledu’r BBC gan Victoria Wood, That Day We Sang, gyferbyn â’i gyd-seren yn Sweeney Todd, Imelda Staunton.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
CYFYNGIADAU AR AILWERTHU TOCYNNAU:
Mae gan Michael yrfa ddarlledu lwyddiannus sy’n cynnwys ei sioe ei hun, The Michael Ball Show ar BBC Radio 2 ddyddiau Sul.Mae hefyd yn gyflwynydd teledu poblogaidd – wedi llywyddu The Michael Ball Show ar ITV1, ei deithlun teledu cyntaf, Wonderful Wales ar Sianel 5 ac yn fwyaf diweddar rhaglen arbennig at Sul y Pasg i’r BBC.
Mae’n teithio gwledydd Prydain yn aml yn artist cyngerdd a gwerthodd filiynau o albymau dros y deng mlynedd ar hugain aeth heibio; perfformiodd yn Awstralia, Tseina, yr Unol Daleithiau, Japan ac yn 2007 gwnaeth ei début yn y BBC Proms:An Evening with Michael Ball at the Royal Albert Hall sef y tro cyntaf i seren theatr gerdd gael cyngerdd solo yn y Proms.Yn 2016 rhyddhaodd Together ar y cyd â’i gyfaill clòs y canwr Alfie Boe, oedd yn cynnwys perfformiadau o ganeuon clasurol.Daeth yr albwm yn un o werthwyr gorau gwledydd Prydain yn 2016 ac achub y blaen ar Little Mix a’r Rolling Stones yn cyrraedd hicyn Rhif Un y Nadolig.Wedyn rhyddhaodd Ball a Boe Together Again roes albwm Rhif Un eto i’r ddau yn 2017, a Back Together landiodd iddyn nhw’r hicyn Rhif Dau yn y Siart Albymau Swyddogol.Yn 2020, rhyddhaodd Michael ac Alfie eu halbwm Nadolig cyntaf Together at Christmas oedd yn cynnwys hen ffefrynnau a chaneuon gwreiddiol.Diolch i’w recordiad diweddaraf Together in Vegas, aeth yn syth i Rif Tri yn siart albymau gwledydd Prydain ym mis Hydref 2022, maen nhw bellach wedi gwerthu dros filiwn a hanner o albymau yng ngwledydd Prydain, wedi cael dwy Wobr Classic Brit, wedi gwerthu pob tocyn ar ddwy daith ar ben y rhaglen a chyflwyno tair rhaglen arbennig ar ITV!Yn ystod amryfal gyfnodau clo gwledydd Prydain dechreuodd Michael sgwennu deunydd newydd, wedi’i ysbrydoli gan ei waith elusennol a chymunedol (megis ei gyfweliad a’i ddeuawd gyda’r diweddar Gapten Syr Tom Moore), a’r canlyniad oedd We Are More Than One, albwm mwy personol nag erioed o’r blaen.Ar ôl iddo ddysgu sut i sgwennu a recordio o hirbell, roedd i bob trac ei stori ysbrydoledig i’w hadrodd.
Yn hydref 2022 cyhoeddwyd ei nofel début, The Empire, ddaeth yn un o Werthwyr Gorau’r Sunday Times.