Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Oherwydd yr ansicrwydd parhaus ac wedi trafod gyda'r hyrwyddwr, dyma roi gwybod bod y gyngerdd FASTLOVE ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2020 a dydd Iau 17 Medi 2020, dydd Iau 13 Mai 2021, 7.30pm bellach wedi'i gohirio tan ddydd Sadwrn 8 Ionawr 2022, 7.30pm
Gallwch ddefnyddio eich tocynnau presennol i fynd i’r sioe ar y dyddiad hwnnw. Gobeithiwn y gallwch ddod ar y dyddiad newydd.
Yn syth o West End Llundain, dyma’r hoff sioe deyrnged George Michael yn y byd.
Mae noson fythgofiadwy yn eich aros chi, i ddathlu seren yr hollfyd, sef George Michael.
Ar yr un pryd ag ail-fyw hen glasuron fe grëwch chi atgofion newydd.Mae’r sioe’n cynnwys ei hits i gyd gan gynnwys Father Figure, Freedom, Faith a llond gwlad at hynny.Dyma i chi chwip o strafagansa rhy dda i’w cholli!
Byddwch yn ysu am sefyll ar eich traed i fwrw iddi, o glywed eich holl hoff ganeuon o Wham a gyrfa solo George yn cynnwys Careless Whisper, Freedom 90, Outside a Too Funky!
Bydd y sioe yma’n mynd â chi ar daith gerddorol o’r gân ddwys Jesus To A Child, i orfoledd Don’t Let The Sun Go Down On Me, hyd at ffefrynnau pawb I’m Your Man a Wake Me Up.Dewch aton ni, a ninnau’n cyflwyno ein teyrnged llawn parch i un o gerddorion mwya’r oesoedd yn ein sioe lwyfan drawiadol sy’n sgubo’r byd.Mae’r sioe bellach ar daith yn Awstralia, gwlad Belg, Denmarc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Iwerddon a Sweden, a rhagor o wledydd i ddod.
Yn newydd yn 2018, bydd y canwr sacsoffon Ed Barker mewn rhai oedau yng ngwledydd Prydain.Ed berfformiodd yr unawd sacsoffon ar Cowboys and Angels pan oedd ar daith ‘Symphonica’ George Michael yn 2012.
Dewch i ail-fyw angerdd, dawn a theimladrwydd dihafal George Michael yn Fastlove!
Sioe deyrnged ydi hon, heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw artistiaid gwreiddiol/ystadau/cwmnïau rheoli na sioeau tebyg.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £2 yn llai
Grwpiau(ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): 1 ym mhob 10 am ddim
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.