Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd: Swae Opera!

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd
Michael Bell MBE – Arweinydd
Rachael Marsh (Soprano) ac Andrew Rawlings (Tenor)
o Academi Llais Rhyngwladol Cymru uchel ei pharch Dennis O’Neill CBA.  

 Ymhlith yr adrannau cerddorfaol mae: 

 Beethoven

 Fidelio - Agorawd

 Bizet

 Carmen - Cyfres

 Mascagni

 Intermezzo o Cavalleria rusticana

 Verdi

 Yr Ymdeithgan Fawr o Aida

 Wagner

 Tannhauser - Agorawd

 Offenbach

 Orpheus in the Underworld - Agorawd 

 Saint-Saëns

 Bacchanale o Samson et Dalila 

  

 Ymhlith yr ariâu mae: 

 Verdi

 La donna e mobile (Rigoletto)

 Puccini

 O mio babbino caro (Gianni Schicchi) 

 Dvořák

 Cân i’r Lloer (Rusalka)

 Puccini

 Golygfa Olaf Act 1 (La bohème) 

 Strauss 

 Als flotter Geist (The Gypsy Baron)

 Verdi

 Sempre libera (La traviata)

 Puccini

 Nessun Dorma (Turandot)


Os oes arnoch eisiau mynd i fyd opera, heb orfod eistedd drwy gynhyrchiad cyfan, mae’r cyngerdd yma i’r dim i chi. Yn y bôn, uchelfannau sydd yma o rai o’r operâu mwyaf a sgrifennwyd erioed….. y munudau mewn opera sy’n tynnu’r lle i lawr, mewn operâu megis Carmen, Aida, Samson et Dalila, Turandot, Cavalleria rusticana, La bohème a rhagor at hynny.     

A phwy all anghofio Nessun Dorma yn arwyddgan Cwpan y Byd 1990 yn yr Eidal, neu’r Intermezzo o Cavalleria rusticana ar drac sain Raging Bull Martin Scorsese yn serennu Robert de Niro?     

Dewch i deimlo angerdd Puccini, mawredd Verdi, ffraethineb Offenbach, tanbeidrwydd Saint-Saens a hylltod ar ben hynny.     

Heb eto eu cyhoeddi mae ein hunawdwyr soprano a thenor, ond byddant o Academi Llais Ryngwladol Cymru fawr ei chlod Dennis O’Neill CBA.    

Rachael Marsh – Soprano (o Academi Llais Rhyngwladol Cymru Dennis O’Neill CBA)   

Mae Rachael Marsh yn soprano telynegol llawn o ogledd Cymru yn astudio gradd feistr yn Academi Llais Rhyngwladol Cymru gyda Dennis O’Neill CBA.  

Mae wedi cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Llais y Dyfodol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2018. Mae Rachael wedi perfformio mewn sawl cynhyrchiad gyda Stiwdio Opera Gogledd Cymru dan Anne Williams-King gan gynnwys canu rôl Suor Angelica yn Neuadd St George, Lerpwl. Mae hefyd wedi canu gyda Chôr Meibion Rhos yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ripon, Cerddorfa Symffoni Wrecsam yn eu digwyddiadau Proms yn y Parc blynyddol a Chwmni Opera Flat Pack yn Ellesmere Port.    

Mae Rachael yn edrych ymlaen at berfformio am y tro cyntaf yng Nghaerdydd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant.    

 

 

 

 

 

 








Andrew Rawlings – Tenor (o Academi Llais Rhyngwladol Cymru Dennis O’Neill CBE)
    

 

Astudiodd y tenor Andrew Rawlings a aned yn Barcelona yn y Liceu Conservatoire yn Barcelona fel efrydydd Erasmus. Yn dilyn hynny aeth i astudio gyda Chris Turner yn y Royal Birmingham Conservatoire.   

 

Ym mis Medi 2019, ymunodd Andrew gydag Academi Llais Rhyngwladol Cymru i astudio gyda Dennis O’Neill CBE. Mae wedi canu ystod o unawdau corawl gan gynnwys Elias Mendelssohn ac Offeren y Coroni gan Mozart.    

 

Mae Andrew hefyd wedi dechrau mentro i nifer o rannau operatig gan gynnwys Candide (Bernstein) Sempronio (Lo Speziale Haydn), Armed Guard (Ffliwt Hudol Mozart) a Henry Crawford (Mansfield Park Jonathon Dove). Mae hefyd yn mwynhau bod yn unawdydd cyngherddol – yn fwyaf diweddar bu’n perfformio yn Neuadd De Montford yn Leicester.   

 

 

 

 

 

 

 

 

  

 

 

 








 
Pris Safonol £8.00 Stalau (C-E orchrau), Rhengoedd 3 (ôl), 7 (ôl), 9 & 13
£11.00 Stalau (C-E canolfan), Rhengoedd 10, 12, 3 (blaen) ac 7 (blaen)
£13.00 Rhengoedd 2, 8, 11
£19.00 Stalau
£25.00 Rhengoedd 1
Plant dan 16 oed £6.50  Ddim ar gael yn y seddau ar y llawr gwaelod nac yn Haen 1.
16 - 25 oed £10.00  Ddim ar gael yn y seddau ar y llawr gwaelod nac yn Haen 1.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Dros 60 | Hawlwyr

£2 oddi ar y ddau bris uchaf

 
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £8.00 bob tocyn (ar gael ar docynnau unigol yn unig, nid ar y Cynnig Cyfres)   
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) 2 gredyd  
Cynnig Cyfres – prynwch docynnau i dair cyngerdd Neuadd Dewi Sant i arbed 25%  

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 

 
Bwciwch Nawr