Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd: Noson Americanaidd

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd
Michael Bell MBE
- Arweinydd
Jeffrey Howard
- Piano

 Copland   Fanfare for the Common Man 
 Bernstein   Agorawd Candide
 Ives  Symffoni Rhif  2 (Première yng Nghymru) 
 Gershwin  Rhapsody in Blue
 Barber  Adagio i’r Tannau
 Gershwin  Porgy and Bess: Symphonic Picture 


Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn cychwyn ei thymor newydd â chyngerdd o gerddoriaeth o ochr draw’r “pwll”! 

Dyma noson o’r naill alaw ar ôl y llall, sy’n cychwyn â Fanfare for the Common Man Copland sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt chi ac Agorawd Candide boblogaidd Bernstein. 

Mae yma hefyd ddisgleirdeb pur cerddoriaeth gan George Gershwin mewn cyfres o’i opera Porgy and Bess….Summertime, Bess You is My Woman Now ac It Ain’t Necessarily So, ac enwi ond dyrnaid o’r caneuon ysgubol o lwyddiannus. Mae Jeff Howard, un o’n hoff unawdwyr, yn amlwg ei le yn Rhapsody in Blue, gwaith sy’n cyfleu i’r dim egni a randibŵ Efrog Newydd y 1920au. 

Ym 1901 y cwblhaodd Charles Ives ei Ail Symffoni ond aeth hanner can mlynedd heibio cyn ei pherfformio mewn première sydd bellach yn chwedlonol, dan arweiniad Leonard Bernstein.Lloriwyd Michael Bell, arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, gan y darn yma yn y BBC Proms yn 2018 a gwyddai ei fod yn waith roedd rhaid i’r Gerddorfa ei berfformio.Mae’n cychwyn yn delynegol, fel Dvořák neu Brahms, ac yn dod i ben yn y symudiad olaf mwyaf heintus o ddisglair a gorawenus, yn bytiau o ymdeithganau, emynau a chanu gwerin Americanaidd a diwedd a fydd mor annisgwyl ag ydi o hurtiol! Hwyr bryd i ni gael y première yma yng Nghymru! 

Mae yma hefyd Adagio i’r Tannau Barber, o eigion calon, sy’n adnabyddus ar hyd ac ar led o’i glywed ar draciau sain y ffilmiau The Elephant Man a Platoon.  

 
Pris Safonol £8.00 Stalau (C-E orchrau), Rhengoedd 3 (ôl), 7 (ôl), 9 & 13
£11.00 Stalau (C-E canolfan), Rhengoedd 10, 12, 3 (blaen) ac 7 (blaen)
£13.00 Rhengoedd 2, 8, 11
£19.00 Stalau
£25.00 Rhengoedd 1
Plant dan 16 oed £6.50  Ddim ar gael yn y seddau ar y llawr gwaelod nac yn Haen 1.
16 - 25 oed £10.00  Ddim ar gael yn y seddau ar y llawr gwaelod nac yn Haen 1.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Dros 60 | Hawlwyr

£2 oddi ar y ddau bris uchaf

 
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £8.00 bob tocyn (ar gael ar docynnau unigol yn unig, nid ar y Cynnig Cyfres)   
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) 2 gredyd  
Cynnig Cyfres – prynwch docynnau i dair cyngerdd Neuadd Dewi Sant i arbed 25%  

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 

 
Bwciwch Nawr