Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor

Mae Neuadd Dewi Sant nawr ar agor i’r cyhoedd, edrychwch ar ein hamserau agor.  Petai angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch 02920 878444.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd 2021/22

CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD
Tymor 2021/22

Rydyn ni nôl! Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn eich croesawu i'w tymor newydd, yn arwain at ddigwyddiad arbennig iawn ym Mehefin 2022.

Bydd A Night at the Movies yn dychwelyd ar Ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021 (yn cynnwys Premieres Cymreig Rogue One: A Star Wars Story a'r antur ffantasi boblogaidd Jason and the Argonauts) ac yna bydd Tchaikovsky Night ar Dydd Gwener 18 Mawrth 2022 (gan gynnwys Agorawd 1812).

Daw tymor 2021/22 i ben gyda Chyngerdd Pen-blwydd CFfC yn 40 oed ar Dydd Sadwrn 18 Mehefin 2022 gyda’r unawdydd Martin James Bartlett yn Concerto Piano Gershwin, a'r orau o holl symffonïau rhamantaidd Rwsia, Symffoni Rhif 2 Rachmaninov.

Archebwch bob un o'r tri chyngerdd cyn 6pm ar Ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021 a chewch 25% o ostyngiad ar eich tocynnau tymor. 

Ond cyn hynny cofiwch ddod atom ni i’n Sbloets Opera nos Wener 15 Hydref 2021, wedi’i ad-drefnu o fis Mawrth 2020, ac ynddo uchelfannau rhai o’r operâu mwyaf sgrifennwyd erioed yn cynnwys CarmenAidaSamson and DelilahTurandot a rhagor at hynny.”


Michael Bell MBE
Arweinydd

Medi 2021
M T W T F S S
 

Ymuno â'r rhestr bostio