Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Nadolig yng nghwmni Côr Meibion Treorci - WEDI'I GANSLO

Dyma Gôr Meibion Treorci yn dod yn ei ôl i Neuadd Dewi Sant i godi arian y mae ei fawr angen i hosbis plant Tŷ Hafan ar yr un pryd â chodi hwyliau’r Nadolig arnoch chi. Lucy Owen, un o gefnogwyr Tŷ Hafan ers tro byd, fydd yn llywyddu’r digwyddiad yma sy’n gydnaws â theuluoedd ac a fydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Hŷn Ysgol Gyfun Treorci.

Ym 1883 y sylfaenwyd Côr Meibion Treorci sydd bellach yn chwedlonol, wedi rhoi Perfformiadau ar Orchymyn ei Mawrhydi a mynd ar ddwsinau o deithiau cenedlaethol a rhyngwladol. Am un noson yn unig gewch chi forio mewn noson o ffefrynnau Cymreig a’r Nadolig yn nes adref o lawer a’r elw i gyd yn mynd i hosbis plant Tŷ Hafan, yn gymorth i ni roi gofal a chefnogaeth hanfodol i blant ac arnyn nhw anhwylderau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd yng Nghymru.
__________________________________

I ni yn Euro Commercials mae a’i gwnelo Nadolig â theuluoedd, ymorol ein bod yn gallu treulio amser gyda’n hanwyliaid a bod yn ddiolchgar am be sydd gennym. Mae Tŷ Hafan yn ymgorffori hyn bob dydd, yn ymorol bod teuluoedd anhygoel sy’n wynebu eu dyddiau caletaf a thywyllaf yn gallu bod gyda’i gilydd, yn gwneud yn fawr o bob ennyd awr, yn enwedig ar adeg swynol y Nadolig. Rydym wrth ein boddau o fod yn cefnogi’r digwyddiad yma am yr ail flwyddyn yn olynol. Nadolig Llawen, Euro Commercials.  

 
  • Pris safonol: £16.00 | £20.00 | £22.00 | £26.00
  • Dan 16 oed: Hanner Pris
  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £16.00 bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo