Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Holly Jolly Christmas with City Voices Cardiff - WEDI'I GANSLO

Cyfarwyddwr Cerddorol: Simon Curtis
Piano: Rhiannon Pritchard
Organ: David Thomas
City Voices Concert Orchestra

Byddwch yn barod i gael eich cipio i fyd hud a lledrith alawon y Dolig yng nghwmni City Voices Cardiff! Dewch atyn nhw i bnawn o lawenydd pur a hwyliau twymgalon yr ŵyl a’u cantorion dawnus yn llenwi’r awyr ag ysbryd y tymor. Gyda chytgordiau fydd yn cyffwrdd eich enaid maen nhw’n eich gwahodd chi i gofleidio gwir ystyr Dolig drwy repertoire cyfareddol o garolau clasurol a ffefrynnau gwyliau’r oes sydd ohoni. Gadewch i leisiau hud City Voices lenwi’ch calon a hwythau’n creu awyrgylch y Dolig yn ddihafal, a digonedd o gyfle i chi forio canu – yn enwedig eu digwyddiad “12 Days of Christmas” traddodiadol lle mae’r gynulleidfa’n cael cymryd rhan!

Pa un a ydych chi’n ifanc ynteu’n ifanc o galon, mae’r cyngerdd yma’n addo bod yn brofiad hyfryd i bawb. Felly nodwch y dyddiad ar eich calendr a dod atyn nhw i gyngerdd Dolig corawl bythgofiadwy fydd yn eich gadael yn llawn dop o lawenydd ac yn barod i gofleidio ysbryd y gwyliau!

Yn 2023 HOSBIS Y DDINAS ydi eu dewis elusen. Sefydlwyd Hosbis y Ddinas ym 1984 i gynnig gofal lliniarol yn y gymuned i bobol Caerdydd. ‘Gofal Hosbis George Thomas’ oedd ei enw gwreiddiol ac o ewyllys da ein cymuned y’i crëwyd. Mae gan yr elusen dreftadaeth gref ac mae i’n gwasanaethau enw eithriadol o dda diolch i gefnogaeth wych busnesau, grwpiau ac unigolion.

Mae Hosbis y Ddinas wedi’i gofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Lloegr a Chymru (Elusen rhif 1023311).

Bydd y raffl a’r casgliad wrth ymadael o’r cyngerdd yma’n mynd tuag at ein hymdrechion codi arian i’n dewis elusen. 

 
  • Pris safonol: £18.00
  • Cynnig teulu: Un oedolyn a phlentyn dan 16 oed yn gwmni iddo: £9.00 y tocyn
  • Plentyn dros ben: £6.00
  • Cynnig oedolion ifainc 16-18 oed a myfyrwyr (gyda cherdyn adnabod myfyrwyr) £7.00 y tocyn
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Hawlwyr: £15.00 y tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo