Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

ABC: The Lexicon of Love - NEWID LLEOLIAD

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

‘THE LEXICON OF LOVE’ – TAITH GERDDORFAOL
Perfformio’r albwm clasurol yn ei grynswth ac at hynny eu hits mwyaf eraill
drwy hyd a lled gwledydd Prydain ym mis Chwefror 2024

gyda’r Southbank Sinfonia
Dan arweiniad Anne Dudley 

The Lexicon Of Love, Rhifyn y deugeinmlwyddiant a ryddheir ar 4 Awst
Mae ‘The Lexicon of Love Live from Sheffield’ ar gael nawr

Oherwydd y galw mawr mae ABC wedi cyhoeddi pum oed dros ben at eu taith yng ngwledydd Prydain ym misoedd Ionawr a Chwefror 2024 a’u gwêl nhw’n perfformio’r albwm début bythol The Lexicon of Love yn ei grynswth. Mae’r oedau newydd yn cynnwys sioeau yn Southend, Stoke, Llundain, Caerdydd a Bournemouth.

Aeth The Lexicon Of Love bythol Martin Fry yn syth i rif un pan gafodd ei ryddhau. Mae’r albwm yn cydasio cywreinrwydd y llawr dawns â ffrom ôl-pync ac epiliodd draciau diamser megis ‘Poison Arrow’, ‘The Look Of Love’, ‘Tears Are Not Enough’ ac ‘All Of My Heart’. Gwelodd yr albwm ABC yn cyfareddu’r byd â’u brand pop dihafal eu hunain ac mae’n dal i fod yn un o albymau gorau’r oesoedd. 

Gwireddwyd taith Gerddorfa The Lexicon Of Love gyntaf yn 2009 a gwelwyd adolygiadau pum seren rhif y gwlith yn sgil sioe untro yn y Royal Albert Hall a Martin yn ei siwt eurwe eiconig.  Daw’r Southbank Sinfonia at Martin, a’i gydweithwr ers tro Anne Dudley fydd yr arweinydd mewn noson wirioneddol hudol i ddathlu’r campwaith pop yma. Y flwyddyn nesaf bydd yn bymtheng mlynedd ers y bartneriaeth gyntaf honno sy’n gweld cynulleidfaoedd yn dod yn eu holau dro ar ôl tro.

Mae Pecynnau VIP ar gael.

“Lavish, intricate, spirited and funky” ***** The Daily Telegraph

‘His baritone as suave as his three piece suit…. He [Martin Fry] still has a mean falsetto, still finishes each line with that debonair flourish.’ **** The Times

The Glossy pop funk still sounds not just remarkably fresh, but remarkably consistent
**** The Guardian
 

 
  • Pris safonal: £40.50 | £55.50 | £73.00 
  • ABC Profiad Sedd Premiwm @ £113.00

    Mae eich profiad yn cynnwys:
    - Un sedd premiwm ar gadw i weld ABC yn fyw
    - Rhestr set brint gasgladwy benodol i’r oedfan
    - Print dethol y daith gydag amlen ar archeb
    - Cofrodd laminedig a chortyn gwddw swyddogol y profiad sedd premiwm

  • Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £40.50 bob tocyn 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr
 

Yn Sheffield yn y 1980au y ffurfiwyd ABC a Martin Fry ar y blaen pan benderfynon nhw eu bod am gydasio byd ffync disgo â’u gweledigaeth ôl-pync ddihafal eu hunain. Aeth albwm début ABC The Lexicon Of Love (‘82) i Rif Un a gwerthu dros filiwn o recordiau. Hyd yn hyn mae ABC wedi rhyddhau naw albwm stiwdio: The Lexicon Of Love (’82), Beauty Stab (’83), How To Be A Zillionaire (’85), Alphabet City (’87), Up (’89), Abracadabra (’91), Skyscraping (’97) a Traffic (’08). Dipyn llai na deugain mlynedd ers rhyddhau eu halbwm début carreg filltir daeth ABC yn eu holau gyda’u gorchest ysgubol The Lexicon Of Love II aeth yn syth i’r pump uchaf.

Hits drwy’r byd yn grwn a chwe albwm stiwdio’n ddiweddarach, mae ABC yn dangos, hyd yn oed yn awr dros ddeugain mlynedd ers The Lexicon Of Love, bod dawn cyfansoddi caneuon Martin Fry a’i ddawn gerddorol yn dal i fod yr un mor gyfoes ag yr oedden nhw ar y dechrau.

Ym mis Mehefin 2022 aeth ABC â The Lexicon of Love ar daith gyda’r Gerddorfa symffonig lawn i ddathlu deugain mlynedd ers ei ryddhau gyntaf. Daliwyd yr hud yn y gig yn eu tref enedigol, Sheffield, ar union ddyddiad ei ryddhau, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach... ar gyfer y record yma The Lexicon of Love Live sydd ar gael yn awr yn y fformatau sy’n dilyn ar Live Here Now Records:  2 x CD / 3 x Finyl piws pefriog ac fel llyfr argraffiad casglwyr a 3 CD.

Mae dathliadau eto’r deugeinmlwyddiant yn mynd yn eu blaenau gyda rhyddhau adargraffiad arbennig iawn ar 4 Awst. Mae’r 4LP a’r bocs Blu-ray ar gael i’w harchebu ymlaen llaw yma. Mae’r argraffiad 4-LP/Blu-Ray, a oruchwyliwyd gan Martin Fry, yn cynnwys yr ailfeistroliad Abbey Road hanner cyflymder gan Miles Showell a thri record eto, yn rhoi deunydd ar finyl am y tro cyntaf gan gynnwys perfformio’r albwm yn fyw yn Hammersmith Odeon ym 1982 a rhyddhau’n fasnachol am y tro cyntaf ‘Ailgymysgiad Arbennig’ The Look Of Love.