Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd
Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd
Michael Bell MBE Arweinydd
Dyma Gerddorfa Ffilharmonig Caeryddd yn dod yn ei hôl i Neuadd Dewi Sant i gyflwyno ei chyngerdd blynyddol, aruthrol o boblogaidd, cerddoriaeth o’r pictiwrs. Yn y dewis eleni mae’r archarwyr Batman, Superman a Rey o Star Wars. Awn ar daith yng nghwmni Iason a’r Argonawtiaid chwedlonol ar drywydd y Cnu Euraid.
A chawn hefyd y ddrama gerdd glasurol gan Rodgers a Hammerstein, The King and I, ac at hynny un o’r comedïau ffilm digrifaf oll Airplane! A rhoi tro am ryw Bates Motel a’i holl gyfrinachau cudd!! Mae yma hefyd deyrnged i’r diweddar anfarwol Burt Bacharach sef y brif thema o Arthur a Dudley Moore a Liza Minelli yn serennu ynddi.
Cofiwch ddod aton ni i noson anfarwol o gerddoriaeth dan gamp!
Star Wars: The Force Awakens
Jason and the Argonauts
Thunderbirds
Psycho
Batman
Superman
Airplane!
Arthur
Harry Potter
The King and I
- Pris Safonol: £8.00 | £11.00 | £13.00 | £19.00 | £25.00
- Cynnig Cyfres: Archebwch ar gyfer pob un o dair cyngerdd y Gerddorfa i arbed 25% (13 Hyd 23, 1 Rhag 23, a 15 Mawrth 24)
- Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Myfyrwyr | Pobl dros 60 oed | Hawlwyr: £2.00 oddi ar y ddau docyn band drutaf
- Dan 18 oed: £6.50 (ac eithrio Stalau a Haen 1)
- 19-25 oed: £10.00 (ac eithrio Stalau a Haen 1)
- Defnyddiwr cadair olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): £8.00 bob tocyn
- Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 2 gredyd
A thâl postio dewisol o £2.00.
I gael tocynnau Hynt, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 (dim ond hyn a hyn sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi).