The Dreamboys – Taith 2020 ym Mhrydain

Mae’r Dreamboys, sioe orau oll gwledydd Prydain ar ddull Magic Mike, yn eu holau, yn boethach nag erioed ac i’w canlyn sioe newydd sbon danlli grai a thaith yng ngwledydd Prydain yn 2020. 

Does dim dwywaith nad ydi’r Dreamboys yn bennaf sioe stripio dynion gwledydd Prydain, i’r dim i noson allan i’r c’wennod gyda’ch ffrindiau i gyd. Yn ddiamau eu stondin ydi’r act stripio dynion enwocaf a gynhyrchodd gwledydd Prydain erioed. Yn sgìl ymddangos yn westeion arbennig ar rai o sioeau teledu mwyaf gwledydd Prydain megis The X Factor, Britain's Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning, Geordie Shore a The Only Way Is Essex, a theithiau Byd-eang enfawr a werthodd bob tocyn, does ryfedd i’r Dreamboys gael y gair o fod yr unig grŵp stripio dynion mewn hanes i ennill bri enwogion. 

Os ydych chi ar drywydd y noson allan i’r c’wennod orau fyw fyd bosib yng ngwledydd Prydain, raid i chi chwilio ddim pellach na’r palffod stripio anhygoel yma. Sioe ddwyawr yn fynd i gyd o’i dechrau i’w diwedd a’i llond o hogiau fydd yn cael gennych grefu am fwy. 

Dyma sioe sy’n fynd i gyd, llawn Cerddoriaeth, Cyhyrau, Hud a Hwyl digon i fynd â’ch gwynt chi – rhy dda i’w cholli, heb flewyn ar dafod. 

Codwch eich Tocynnau’n awr cyn iddi fynd yn rhyw hwyr.

 
 Pris Safonol  £20.50 | £25.50 | £29.50 
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith  £2 yn llai
Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444) Prynwch 10 tocyn i gael yr 11eg am ddim

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr