Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod digwyddiad The Dreamboys nos Gwener 4 Medi 2020, 8pm wedi’i ohirio tan nos Sadwrn 25 Medi 2021 8pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Mae’r Dreamboys, sioe orau oll gwledydd Prydain ar ddull Magic Mike, yn eu holau, yn boethach nag erioed ac i’w canlyn sioe newydd sbon danlli grai a thaith yng ngwledydd Prydain yn 2020.
Does dim dwywaith nad ydi’r Dreamboys yn bennaf sioe stripio dynion gwledydd Prydain, i’r dim i noson allan i’r c’wennod gyda’ch ffrindiau i gyd. Yn ddiamau eu stondin ydi’r act stripio dynion enwocaf a gynhyrchodd gwledydd Prydain erioed. Yn sgìl ymddangos yn westeion arbennig ar rai o sioeau teledu mwyaf gwledydd Prydain megis The X Factor, Britain's Got Talent, Celebrity Big Brother, Loose Women, This Morning, Geordie Shore a The Only Way Is Essex, a theithiau Byd-eang enfawr a werthodd bob tocyn, does ryfedd i’r Dreamboys gael y gair o fod yr unig grŵp stripio dynion mewn hanes i ennill bri enwogion.
Os ydych chi ar drywydd y noson allan i’r c’wennod orau fyw fyd bosib yng ngwledydd Prydain, raid i chi chwilio ddim pellach na’r palffod stripio anhygoel yma. Sioe ddwyawr yn fynd i gyd o’i dechrau i’w diwedd a’i llond o hogiau fydd yn cael gennych grefu am fwy.
Dyma sioe sy’n fynd i gyd, llawn Cerddoriaeth, Cyhyrau, Hud a Hwyl digon i fynd â’ch gwynt chi – rhy dda i’w cholli, heb flewyn ar dafod.
Codwch eich Tocynnau’n awr cyn iddi fynd yn rhyw hwyr.
Oed:18+ yn unig
Mae’r Hyrwyddwr wedi rhoi ar wybod i Neuadd Dewi Sant fod y sioe’n anaddas i’r Rheini dan 18 oed ac fe allai fod yna wiriadau adnabod pan gyrhaeddwch chi.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £2 yn llai
Grwpiau (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Prynwch 10 tocyn i gael yr 11eg am ddim
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.