The Chicago Blues Brothers

Dyma’r Chicago Blues Brothers a’u band un darn ar ddeg yn syth o West End Llundain - dewch atyn nhw i sioe newydd sbon danlli grai, yn ganu i gyd, yn ddawnsio i gyd ac yn heigio o hits, sy’n dod ag anthemau ffilm mwya’r oesoedd atoch chi, yn cael eu perfformio’n fyw mewn cyngerdd. 

Bydd yma ganeuon o Footloose, A Star is Born, Dirty Dancing, The Greatest Showman, The Full Monty ac eraill fyrdd, heb sôn am holl hoff glasuron y Blues Brothers a llwyth o bethau annisgwyl. 

Yn driw i dreftadaeth a steil Jake ac Elwood, yn cael eu perfformio yn y dull diarbed, gwallgo, calonnog a wnaeth y Chicago Blues Brothers yn un o’r sioeau theatr mwyaf llwyddiannus sy’n teithio’r byd. 

Cloddiwch yr hetiau trilbi a’r sbectol haul a rhoi sglein ar eich sgidiau dawnsio – rydym yn dod â’r parti atoch chi yn y sbloet ddi-ball yma o gerddoriaeth a chwerthin.

 
 Pris Safonal £27
 Deryn Cynnar / Archebwyr Blaenorol (ar gyfer archebion ar neu cyn 30 Medi 2019) £5 oddi ar bâr o docynnau
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant £1 yn llai
Grwpiau o 10 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £1 oddi wrth bob tocyn
Grwpiau o 20 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £1.50 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.