Owen Money's Juke Box Heroes III

Yn dilyn llwyddiant sgubol Owen Money’s Jukebox Heroes yn 2016, ac wedyn Owen Money’s Jukebox Heroes II yn 2018, dyma Owen Money yn ei ôl ac i’w ganlyn sioe eto’n heigio gan ddawn yn cynnwys cerddoriaeth ei sioeau poblogaidd dros y Sul ar BBC Wales - ac wrth gwrs ei fath dihafal o gomedi a’r ‘Cellwair Cymreig’!

Ydych wir, yn llygad eich lle - Owen Money’s Jukebox Heroes III ….

Bydd ei fand tan gamp ‘The Travelling Wrinklies’ yn ymuno ag Owen ar lwyfan i gyfeilio i deyrngedau digon i fynd â’ch gwynt chi i rai o chwedlau Byd Cerdd …

Bydd Owen a’r band yn cyfeilio i ganu syfrdanol Alex John i aildanio seiniau arloesol y Beach Boys …

Gewch chi ddisgwyl cael eich llorio o glywed Katie Mittell yn talu teyrnged aruthrol i Chwedlau Mwyaf Canu’r Enaid megis Aretha Franklin, Etta James a Nina Simone …

Daw Jeff Phillips i’r llwyfan yn Neil Diamond o’i gorun i’w sawdl …

‘Dyna hen ddigon o arwyr’ – ond na, un bach eto! … 

Mae Sara Jones yn hyrddio i’r llwyfan mewn portread bendigedig o Miss Tina Turner.

 
Pris Safonol £20.50
Myfyrwyr  £18.50 yr un 
Pobl anabl ag un cydymaith £18.50 yr un
Grwpiau o 10 neu fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £18.50 yr un

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr