Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Arferion Gwaith Technegol Diogel

Neuadd Dewi Sant Prif Awditoriwm

Cofiwch am yr arferion gwaith a’r rolau canlynol a gyflawnir gan staff technegol mewnol i sioeau sy’n dod â rhywfaint neu’r cyfan o’u hoffer i Neuadd Dewi Sant.

Mae gan Neuadd Dewi Sant reoliadau Iechyd a Diogelwch, Tân a thrwyddedu. Rhaid i unrhyw aelodau cwmni sy’n ymweld gydymffurfio â holl reolau technegol Neuadd Dewi Sant a nodir yn eitemau’r contract. Cyfrifoldeb y cwmni sy’n ymweld yw rhoi gwybod i’r holl aelodau perthnasol o’i sefydliad, gan gynnwys unrhyw isgontractwyr a chynorthwywyr, o’r rheolau hyn.

Staff

Trydanwr / Technegydd y Tŷ

Pan elwir ar drydanwr i fodloni gofynion cynhyrchiad, bydd aelod o’r staff mewnol yn gwneud hyn. Yr unig dasg a wnaiff y trydanwr yw cysylltu offer y cwmni allanol i’r cyflenwad trydan. Ni fydd y trydanwr yn gwneud gwaith i osod na datod offer ond am ddatgysylltu cyflenwadau o’r fath ar ddiwedd y nos. Os yw’r cwmni allanol yn defnyddio’r system oleuadau fewnol, bydd y trydanwr yn cyflawni dyletswyddau rigio/dad-rigio goleuadau sylfaenol, ffocysu goleuadau, gweithredu offer Access a gweithredu’r bwrdd goleuadau yn ôl y gofyn. Ni chodir ar gwmni allanol am wasanaethau’r trydanwr mewnol.

Technegydd Sain

Pan fydd angen technegydd sain at ddibenion defnyddio’r PA mewnol i ategu PA’r cynhyrchiad, cyflawnir y dasg hon gan aelod o’r staff technegol mewnol. Bydd y person hwn yn cysylltu â pheiriannydd sain y cwmni teithiol ynghylch y system fewnol ac yn cynorthwyo â sefydlu cysylltiad rhwng y ddwy system. Ni fydd y technegydd hwn yn cyfrannu at osod na datod heblaw gyda’r dyletswyddau a restrir uchod. . Ni chodir ar gwmni allanol am wasanaethau’r peiriannydd sain mewnol.

Rheolwr Llwyfan

 Pan ofynnir am reolwr llwyfan i’r cynhyrchiad, gwaith un o’r technegwyr mewnol fydd cysylltu â’r rheolwr cynhyrchu/llwyfan ynghylch unrhyw sioe sy’n dod i’r Neuadd am eu gofynion o ran llwyfannu, rostra mewnol, offer hydrolig, tabiau mewnol, cefndiroedd, garrau. Ni fydd y rheolwr llwyfan yn helpu i osod na datod y sioe ac eithrio am helpu i redeg galwadau blaen tŷ a hysbysu rheolwr y cynhyrchiad/llwyfan teithiol o glirio’r tŷ, a gweithredu goleuadau’r tŷ yn ôl y gofyn. Mewn amgylchiadau arbennig, gall rheolwr y llwyfan gynorthwyo â dyletswyddau eraill y sioe os trafodir hyn cyn i’r sioe gyrraedd â’r rheolwr technegol. Ni chodir ar gwmni allanol am wasanaethau’r rheolwr llwyfan.

Mae’r sawl sy’n cyflawni’r tair rôl hyn wedi’u hyfforddi’n llawn yng ngweithdrefnau tân Neuadd Dewi Sant a fydd yn arwain at adael yr adeilad os cwyd yr angen.

Criw Lleol

Rôl y criw lleol yw cynorthwyo’r cwmni allanol wrth ddadlwytho/llwytho offer o’u cerbyd, a gosod offer ar y llwyfan ar ôl ei ddadlwytho a’i ddatod ar ôl i’r sioe ddod i ben yn ôl cyfarwyddyd y cwmni allanol. Y criw yw’r unig aelodau o staff a fydd yn perfformio’r tasgau hyn. Fel y nodwyd yn flaenorol ni fydd y technegwyr mewnol yn cynorthwyo’r sioe â llwytho/dadlwytho neu osod offer, ac nid ydynt yn cael eu talu i wneud hyn. Sicrhewch wrth drefnu cymorth criw eich bod yn deall bod y technegwyr mewnol yn gwbl ar wahân i unrhyw ofynion y criw. Os oes angen 6 pherson i ddadlwytho’ch offer a’i osod trefnwch i 6 aelod o’r criw wneud hyn. O ran sioeau o fath pop/roc, mae’r tasgau a wneir gan y technegwyr mewnol megis uchod ac maent AM DDIM i gwmnïau allanol. Peidiwch â disgwyl i’r technegwyr mewnol ffurfio rhan o unrhyw ofynion criw i’ch sioe.

Amgylchiadau Arbennig

Os yw’r digwyddiad dan sylw’n cynnwys Darlledu Teledu Masnachol, yna rhaid trafod trefniadau arbennig gyda’r Rheolwr Llwyfan Technegol gan fod yr holl staff technegol dan gytundeb BECTU o ran taliadau, dyletswyddau, oriau gwaith ac ati.

Iechyd a Diogelwch

Polisi Dim Ysmygu

O 2 Ebrill 2007, rhaid i bob adeilad cyhoeddus fod yn safleoedd di-fwg. Mae’n cynnwys ardaloedd cefn llwyfan Neuadd Dewi Sant. Ni chaniateir i unrhyw aelod o’r Criw na’r cwmnïau allanol ysmygu y tu fewn i’r adeilad, gan gynnwys yn ardal y llwyfan, yr ystafelloedd newid, yr ardal dadlwytho, criw’r gegin neu’r ystafell werdd. Mae hon yn gyfraith genedlaethol ac os caiff rhywun ei ganfod yn ysmygu caiff ddirwy. Yr unig ardal lle caniateir ysmygu yw y tu cefn i’r llwyfan tu allan i ddrws y llwyfan. Os oes yn rhaid ysmygu fel rhan o’r perfformiad, cysylltwch â Rheolwr Technegol y Llwyfan cyn gynted â phosibl.

Hedfan

Nid oes gennym fariau llwyfan fel sydd i’w cael mewn theatr arferol. Yn lle mae gennym 2 ffrâm fecanyddol (tua 6m o ddwfn gan 17m o led a 3.5m o ddwfn gan 12m o led) sydd dros y prif lwyfan a arferai fod ar gyfer hongian goleuadau a llenni. Gellir symud y 2 ffrâm hyn yn annibynnol ar ei gilydd ac uchder hedfan arferol y ddwy yw 30’ sy’n cyfrif llinellau gweld o gefn yr awditoriwm.

Mae’n bolisi gan Neuadd Dewi Sant na chaniateir hongian unrhyw offer trwm a ddaw i mewn gan unrhyw gwmni oddi ar ein fframiau, onid ydynt wedi bod yn destun arolwg diogelwch yswiriant gan y cyngor. Mae hyn yn cynnwys moduron, gosodiadau goleuadau, uwch-seinyddion neu unrhyw ddarnau caled o’r golygfeydd a hedfanir. Rhaid i’r holl offer goleuadau / sain a ddygir i mewn i Neuadd Dewi Sant gael ei gefnogi gan foddion y cwmni allanol, naill ai gan bwyntiau symud hedfan o’n to, neu’r defnydd o adeileddau llawr a gefnogir. Ymgynghorwch â rheolwr technegol y llwyfan os na allwch ddarparu’r gefnogaeth hon neu os oes gennych unrhyw eitemau y byddai angen eu hedfan o’n ffrâm. Caniateir defnydd ‘meddal’ (Llenni, cyclorama, garrau ac ait) er ein bod yn gofyn i chi drafod â’r Adran Dechnegol cyn y diwrnod dadlwytho.

Nid oes gennym ehedydd penodedig, fel sydd i’w gael mewn theatr â chyfleusterau hedfan arferol.

Dylid cyfeirio’r holl gwestiynau ynghylch llenni sy’n ehedeg at y technegydd ar ddyletswydd a all roi cyngor ar hyn. Ni chodir am y gwasanaeth.

Nid oes aelod o staff technegol Neuadd Dewi Sant yn rigiwr cymwys, ac felly ni fydd staff mewnol yn rigio pwyntiau symud neu unrhyw ddyfais arall. Gallwn fodd bynnag gynghori ar bwyntiau addas i’w rigio, a darparu rigiwr cymwys am gost.

Rhaid i unrhyw ategrwymau/seinyddion gydymffurfio’n llwyr â rheoliadau codi a llwytho (LOLER). Rhaid i’r holl offer hedfan gael ei brofi’n llawn a meddu ar dystysgrif prawf ddilys. Rhaid i bob eitem feddu ar nod CE a bod yn addas at y diben. Dylai pob tystysgrif prawf ac asesiad risg fod ar gael i’w harolygu gan aelod o Staff Technegol Neuadd Dewi Sant, yn ôl yr angen.

Gan nad oes gennym fariau hedfan, nid oes gennym gyfleusterau i hongian llenni neu gefndiroedd. Yr unig ffordd yw defnyddio traciau weip. Rhaid i draciau o’r fath gael eu darparu gan y cwmni allanol gan nad oes gennym rai.

Masgio Mewnol 

Mae gennym set lawn o dabiau math theatr y gellir ei defnyddio mewn trefniant math croesdoriad. Maent yn 30’ o ddwfn sy’n golygu bod yn rhaid i’r prif grid gael ei hongian ar 30’ fel y gall y tabiau agor a chau. Os caiff unrhyw gefndiroedd eraill eu hongian ar y brif ffrâm rhaid iddynt hefyd fod yn 30’ i weithio gyda’n tabiau. Mae gennym hefyd 2 set o garrau duon sydd ar gael i’w defnyddio, eto mae gan bob un ddyfnder o 30’. Nid oes gennym unrhyw forderi.


Diweddarwyd Ionawr 2017

Ymuno â'r rhestr bostio